Mae disgyblion yn 9 o ysgolion cynradd yn Sir Gaerfyrddin wedi cwblhau taith gerdded rithwir o Lanelli i Thaba Tseka yn Lesotho, fel rhan o'r prosiect ryngwladol 'Walk the Global Walk'.
Mae wedi bod yn gyfle gwych i blant ddysgu am y Nodau Datblygu Cynaliadwy, yn ogystal ag am ysgolion mewn gwledydd eraill. Maent wedi mwynhau gweld y tebygrwydd ac wedi gwerthfawrogi'r gwahanol ddiwylliannau ac ieithoedd. Mae cymryd rhan wedi helpu i gyfrannu at gadw heini a helpu'r plant i ddangos empathi â dysgwyr yn Lesotho sy'n cerdded llawer o filltiroedd i'r ysgol ac yn ôl bob dydd.
Mae'r llwybr rhithwir y mae disgyblion wedi'i ddilyn wedi'u harwain drwy Ffrainc, yr Eidal a Gwlad Groeg, yna i'r Aifft a thrwy wledydd eraill yn Affrica gan gynnwys Rwanda, Tanzania, a Zambia.
Ar ôl i'r ysgolion wneud digon o gamau i gyrraedd pob gwlad, cafodd fideo i'w croesawu gan ysgol yn y wlad honno ei rannu gyda nhw.
Mae disgyblion hefyd wedi cael pasbort swfenîr i gofnodi eu profiad.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Hoffwn longyfarch y plant am gymryd rhan yn y fenter wych hon, sy'n hyrwyddo ffitrwydd corfforol yn ogystal â gwell dealltwriaeth o'r byd a'r heriau sy'n ein hwynebu.
"Rydym yn gwerthfawrogi ein perthynas â'n cyfeillgarwch â Lesotho - mae ein plant yn dysgu cymaint wrth ryngweithio'n rheolaidd â'u cyd-ddisgyblion. Yn ystod Walk the Global Walk, maent hefyd wedi dysgu am nifer o wledydd ar hyd eu taith rithwir."
Ychwanegodd Ceri Morris, Pennaeth Ysgol Gynradd Dyffryn y Swistir yn Llanelli: "Mae'r fenter hon yn gymhelliant mawr i'n disgyblion ac maent yn mwynhau gwasanaethau cyfrif camau ar ddiwedd bob wythnos. Mae pob dosbarth wedi bod yn ymchwilio i un o'r wyth gwlad y mae'r daith gerdded yn teithio drwyddi ac yn cyflwyno'r canfyddiadau mewn gwasanaethau rhithwir."
Am fwy o wybodaeth, ewch i Brasgamu i Lesotho - Stepping it out to Lesotho! (padlet.com)