Mae Walk the Global Walk, drwy Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang, yn rhoi modd i bobl ifanc ysgogi newid trawsnewidiol, gwneud Nodau Datblygu Cynaliadwy yn rhywbeth lleol, a llunio model addysgol arloesol gan roi sylw i gymhlethdodau'r agenda fyd-eang bresennol. Bydd y model trosglwyddadwy ac arloesol hwn, sy'n gallu integreiddio dealltwriaeth newydd o faterion byd-eang mewn perthynas â mudo, newid yn yr hinsawdd a chydraddoldeb rhyw yn cael ei addasu i gwricwlwm addysg ffurfiol yr ysgolion uwchradd.
Mae prosiect Walk the Global Walk, sy'n cael ei hyrwyddo gan ranbarth Tysgani ac Oxfam Italia Intercultura a'i ariannu ar y cyd gan yr Undeb Ewropeaidd, yn cysylltu awdurdodau lleol a chymunedau rhanbarthol a lleol (cymunedau ysgol a sefydliadau cymdeithas sifil) o 11 o wledydd Ewropeaidd: Yr Eidal, Ffrainc, Croatia, Cyprus, DU (Cymru a'r Alban), Portiwgal, Groeg, Rwmania, Bwlgaria, Bosnia a Herzegovina ac Albania. Rhoir sylw i Cymunedau a Dinasoedd Cynaliadwy (SDG11), Gweithredu ynghylch yr Hinsawdd (SDG 13), Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cryf (SDG 16) oherwydd ystyrid mai'r rhain yw'r pynciau llosg mwyaf nad oes gan bobl ifanc ddigon o ddiddordeb ynddynt.