01 - COFRESTRU
Croeso i Lwyfan y prosiect. Os ydych am gyrchu'r deunyddiau a gweithgareddau rhyngweithiol y prosiect, rhannu safbwyntiau a syniadau gyda myfyrwyr ac athrawon o 11 o wledydd Ewropeaidd, ewch i'r ffurflen gofrestru.
Thema y flwyddyn
SDG 16 Peace, Justice and Strong Institutions
2 - CWRS ADDYSGOL
Mae cyrsiau addysgol yn rhoi i fyfyrwyr y wybodaeth a'r sgiliau sy'n ymwneud â hawliau dynol a Nodau Datblygu Cynaliadwy. Nod y cyrsiau yw cyflwyno materion datblygu i gwricwlwm ysgol ffurfiol. Yn y sesiwn hon mae dysgwyr yn cymryd rhan mewn cymuned rithwir, gan fod yn rhan weithredol o Nodau Datblygu Cynaliadwy.
Thema y flwyddyn
SDG 16 Peace, Justice and Strong Institutions
3 - GWEITHGAREDDAU ADDYSG CYFOEDION
Mae gweithgareddau addysg cyfoedion yn lledaenu ac yn cynyddu ymwybyddiaeth o Nodau Datblygu Cynaliadwy ac o weithredu'r Agenda Nodau Datblygu Cynaliadwy ar lefel leol. Darperir y gweithgareddau rhwng cyfoedion gan fyfyrwyr, sy'n gweithredu fel Llysgenhadon Nodau Datblygu Cynaliadwy, i fyfyrwyr eraill, gyda golwg ar hyrwyddo cyfraniad pobl ifanc at wythnos Nodau Datblygu Cynaliadwy yr UE. Yn y sesiwn hon, mae adnoddau a deunydd defnyddiol ar gael i gefnogi trefnu wythnos Nodau Datblygu Cynaliadwy yr UE a gweithgareddau cynyddu ymwybyddiaeth cysylltiedig.
Thema y flwyddyn
SDG 16 Peace, Justice and Strong Institutions
4 - WYTHNOS NODAU DATBLYGU CYNALIADWY YR UE – GWEITHGAREDDAU YMWYBYDDIAETH LEOL
Mae Grŵp o Lysgenhadon Nodau Datblygu Cynaliadwy yn gyfrifol am drefnu gweithgareddau ymwybyddiaeth leol yn eu cymunedau, drwy griwiau fflach, gweithredu ar y stryd, arddangosfeydd celf, deisebu, gweithdai a chynadleddau, mewn perthynas â Nod Datblygu Cynaliadwy penodol. Gyda chymorth awdurdodau lleol, mae'r gweithgareddau hyn yn dangos bod Nodau Datblygu Cynaliadwy wedi cael eu cyrraedd, a hynny ar lefel leol, yn y gymuned, ac ar raddfa fyd-eang, gan eu bod yn cael eu gweithredu yr un pryd yn y gwledydd partner.
Thema y flwyddyn
SDG 16 Peace, Justice and Strong Institutions
5 - GWEITHDAI MEWN GWLEDYDD PARTNER
Gweithredu'r Gweithdai Cynllunio Camau yw cam olaf y gweithgareddau cynyddu ymwybyddiaeth, gan arwain at gymryd camau cymdeithasol. Mae dau fyfyriwr (arweinwyr) – a etholir gan eu dosbarth – yn mynychu'r gweithdai hyn (2 o fyfyrwyr o bob dosbarth gymerodd ran yn y cyrsiau addysgol) ynghyd â'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau lleol ac athrawon.
Thema y flwyddyn
SDG 16 Peace, Justice and Strong Institutions
6 - WYTHNOS NODAU DATBLYGU CYNALIADWY YR UE
Wythnos o ddigwyddiadau sy'n dathlu'r Agenda Nodau Datblygu Cynaliadwy yw Wythnos Nodau Datblygu Cynaliadwy yr UE, er mwyn rhoi amlygrwydd ehangach i pam mae Nodau Datblygu Cynaliadwy wir yn bwysig a sut mae rhoi sylw i faterion ynghylch Nodau Datblygu Cynaliadwy mewn amgylcheddau lleol, gan glymu'r dimensiwn byd-eang ag un lleol. Yn ystod yr wythnos hon, mae digwyddiadau o bwys yn digwydd ym mhob ysgol.
Thema y flwyddyn
SDG 16 Peace, Justice and Strong Institutions
7 - YSGOL HAF
Mae'r ysgol haf yn hyfforddiant rhyngwladol 4 diwrnod dwys ar TAG ac Arweinyddiaeth a Chyfranogiad gan Ieuenctid lle mae myfyrwyr yn dadansoddi cyd-destunau lleol a byd-eang er mwyn nodi camau pendant i barchu a hyrwyddo Nodau Datblygu Cynaliadwy ac i fabwysiadu ffyrdd mwy cynaliadwy o fyw. Mae'n cynnwys hyfforddiant arbrofol a gwersi theori i'w cynnal yn ystod cyfnod yr haf (pan fydd yn haf yn Ewrop). Y canlyniad yw maniffesto ar y cyd gan Bobl ifanc ac Awdurdodau Lleol i hyrwyddo Nodau Datblygu Cynaliadwy, sy'n cynnwys awgrymiadau ac argymhellion.
Thema y flwyddyn
SDG 16 Peace, Justice and Strong Institutions
8 - MANIFFESTO IEUENCTID
Mae Awdurdodau Lleol mewn gwledydd partner yn trefnu Gweithdai sy'n cynnwys rhanddeiliaid perthnasol (Ysgolion, Sefydliadau Ieuenctid a sefydliadau cymdeithas sifil) ar lefel leol i fynd i'r afael â Nodau Datblygu Cynaliadwy penodol y canolbwyntir arnynt. Maent yn rhannu arferion da ac yn archwilio cynnwys y Nod Datblygu Cynaliadwy (a ddewiswyd ar gyfer y flwyddyn honno) er mwyn llunio papur trafod. Wedyn eir â'r papur trafod i'w gyflwyno yn ystod Ysgol Haf Ryngwladol Nodau Datblygu Cynaliadwy. Bydd yr Ysgol Haf yn rhoi bod i faniffesto ar y cyd rhwng Pobl ifanc ac Awdurdodau Lleol i hyrwyddo Nodau Datblygu Cynaliadwy, yn cynnwys awgrymiadau ac argymhellion.