Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi hybu Dirwnod y Ddaear drwy'r prosiect "Walk the Global Walk" eleni.
Mae baneri a ddyluniwyd gan disgyblion Coedcae a Glan y Mor yn cael eu harddangos yn Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin a Neuadd y Dref, Llanelli ,i gydnabod pwysigrwydd yr argyfwng newid yn yr hinsawdd a'r angen i leihau'r ôl troed amgylcheddol.
I nodi Diwrnod y Ddaear ddydd Iau, cynhaliodd y cyngor ei Gynhadledd Hinsawdd gyntaf i blant, roedd yn cynnwys 40 o ddisgyblion o 14 ysgol gynradd. Cynhaliwyd y digwyddiad rhithwir mewn partneriaeth â Chyngor Tref Caerfyrddin, Dolen Cymru Lesotho, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, Maint Cymru, a Cadwch Gymru'n Daclus, Roedd yn cynnwys cwis, astudiaeth achos o Ysgol Pum Heol, cyfle i rannu profiadau a chael syniadau newydd.
Ymchwiliodd pob ysgol i effaith newid yn yr hinsawdd ar wlad benodol cyn baratoi bwletin newyddion arbennig i'w rannu ar y diwrnod. Aeth llawer o waith i mewn i greu'r bwletinau ac roedd cynnyrch ein darpar ohebwyr newyddion yn wych. Roedd y digwyddiad yn boblogaidd iawn gyda'r cyfranogwyr. "Roedd y gynhadledd hon wedi gwneud i ni feddwl a sylweddoli bod gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd" meddai disgyblion Ysgol Gynradd Stebonheath.
Roedd yr holl ysgolion a gymerodd ran yn y gynhadledd yn Eco 'Sgolion a nifer o ddisgyblion a gymerodd ran yn aelodau blaenllaw o Eco-bwyllgor eu hysgolion. Mae Sir Gaerfyrddin yn un o'r awdurdodau lleol sydd â'r nifer uchaf o ysgolion â Baneri Platinwm a Gwyrdd yng Nghymru ac mae wedi bod yn rhan o'r rhaglen ers 27 mlynedd.