Mae ein gwaith eleni ar NDC 16 yn cyfrannu at y traddodiad hir o ryngwladoliaeth yng Nghymru ac at waith menter lwyddiannus Cymru dros Heddwch. Yn y llun uchod mae'r Senedd, sef Llywodraeth Cymru. Isod mae'r Deml Heddwch yng Nghaerdydd a sefydlyd yn wreiddiol fel cofeb i feirwon y Rhyfel Byd Cyntaf, ond nawr ei swyddogaeth yw i helpu arwain cenhadaeth genedlaethol i greu byd gwell ar gyfer cendlaethau'r dyfodol. Mae bellach yn gartref i'n partneriaid Dolen Cymru Lesotho a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Rydym ni yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin yn falch iawn o weithio gyda nhw er mwyn cefnogi 8 ysgol uwchradd a 10 ysgol gynradd y sir, ac mae 8 ohonynt yn newydd i'r prosiect eleni.
Cymerodd cyfanswm o 22 o athrawon ran yn ein sesiynau hyfforddi ar Hydref 21 a 22 a gyflwynwyd yn rhithiol drwy "Teams". Yn dilyn cyflwyniad i'r prosiect Walk the Global Walk, rhannodd Jane Harries o Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru uchafbwyntiau o'n pecyn adnoddau newydd, y gwnaeth hi lawer iawn i'w greu. Fe wnaethon ni roi cynnig ar rai o'r weithgareddau - ddim mor hawdd i'w gwneud ar lein!- gan gynnwys continiwm gwerthoedd yn ymwneud a gwrthdaro, "coridor cydwybod" ynglyn a chyfiawnder hinsawdd yn Lesotho, a chwis am anghydraddoldeb byd-eang. Yna clywodd pawb gan Elin Zych, Ysgol Parc y Tywyn a Rachel Evans, Ysgol Dyffryn Aman, am eu llwyddiant yng Nghynllun Ysgolion Heddwch Cymru - bydd ein holl ysgolion Walk the Global Walk yn cael eu cefnogi eleni i ddatblygu'n ysgolion heddwch trwy'r fenter.
Cafodd yr hyfforddiant groeso mawr, gyda'r athrawon yn ei gael yn addysgiadol, yn ymarferol a hyd yn oed yn ysbrydoledig. Mae'r ysgolion yn edrych ymlaen at ddechrau addysgu gan ddefnyddio y pecyn adnoddau y mae llawer o bobl, gan gynnwys ein cynghorwyr addysg, yn ystyried ei fod yn annog y dull trawsgwricwlaidd, meddwl yn feirniadol, a dysgu cyfranogol sy'n sylfaenol i ddatblygu'r cwricwlwm newydd yma yng Nghymru.
Lluniau trwy garedigrwydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru