Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi hybu Dirwnod y Ddaear drwy'r prosiect "Walk the Global Walk" eleni.

Mae baneri a ddyluniwyd gan disgyblion Coedcae a Glan y Mor yn cael eu harddangos yn Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin a Neuadd y Dref, Llanelli ,i gydnabod pwysigrwydd yr argyfwng newid yn yr hinsawdd a'r angen i leihau'r ôl troed amgylcheddol.

I nodi Diwrnod y Ddaear ddydd Iau, cynhaliodd y cyngor ei Gynhadledd Hinsawdd gyntaf i blant, roedd yn cynnwys 40 o ddisgyblion o 14 ysgol gynradd. Cynhaliwyd y digwyddiad rhithwir mewn partneriaeth â Chyngor Tref Caerfyrddin, Dolen Cymru Lesotho, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, Maint Cymru, a Cadwch Gymru'n Daclus, Roedd yn cynnwys cwis, astudiaeth achos o Ysgol Pum Heol, cyfle i rannu profiadau a chael syniadau newydd.

Ymchwiliodd pob ysgol i effaith newid yn yr hinsawdd ar wlad benodol cyn baratoi bwletin newyddion arbennig i'w rannu ar y diwrnod. Aeth llawer o waith i mewn i greu'r bwletinau ac roedd cynnyrch ein darpar ohebwyr newyddion yn wych. Roedd y digwyddiad yn boblogaidd iawn gyda'r cyfranogwyr. "Roedd y gynhadledd hon wedi gwneud i ni feddwl a sylweddoli bod gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd" meddai disgyblion Ysgol Gynradd Stebonheath.

Roedd yr holl ysgolion a gymerodd ran  yn y gynhadledd yn Eco 'Sgolion a nifer o ddisgyblion a gymerodd ran yn aelodau blaenllaw o Eco-bwyllgor eu hysgolion. Mae Sir Gaerfyrddin yn un o'r awdurdodau lleol sydd â'r nifer uchaf o ysgolion â Baneri Platinwm a Gwyrdd yng Nghymru ac mae wedi bod yn rhan o'r rhaglen ers 27 mlynedd. 


This website was created and maintained with the financial support of the European Union. Its contents are the sole responsibility of CARDET and its project partners and do not necessarily reflect the views of the European Union.
[Project number: CSO-LA/2017/388-223] - Privacy Policy